Mabolgampau / Sports Day
This event will take place between 9:00am and 3:30pm on 03/06/2026
Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Fel y gwyddoch, bydd Mabolgampau blynyddol yr ysgol i bawb o’r Derbyn I Flwyddyn 6 yn cael eu cynnal ar Ddydd Mercher, Mehefin 3ydd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ar gampws Cyncoed. Bydd y disgyblion yn dod i'r ysgol fel arfer yn y bore a bydd bysiau yn cludo'r plant draw i Gyncoed. Byddwn yn dychwelyd i'r ysgol i fwyta cinio.
Bydd y Mabolgampau yn cychwyn am 10am ac yn gorffen am ganol dydd.
Bydd angen i bawb wisgo cit ymarfer corff yr ysgol, sef siorts neu ‘leggings’ du a chrys-T chwaraeon Ysgol Gwaelod y Garth neu grys-T glas golau. Bydd angen potel o ddŵr ar eich plant ac mae croeso iddyn nhw ddod â byrbrydau iach.
Fel pob blwyddyn, mae gwahoddiad agored i deuluoedd ddod i wylio’r Mabolgampau. Gofynnwn yn garedig i rieni eistedd yn yr ardal wylio i fyny’r grisiau a pheidio â dod i lawr i siarad â’r plant yn ystod y digwyddiad.
Os fyddwch yn tynnu lluniau o’ch plant yn ystod y bore gofynnwn i chi beidio â rhannu’r lluniau ar wefannau cymdeithasol os oes unrhyw blant eraill yn y lluniau. Edrychwn ymlaen at eich gweld yno.
Cofion cynnes,
Mrs H Sharkey
Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid / Dear Parents and Carers,
As you are already aware, the school’s annual Sports day (Mabolgampau) for all children from Reception to Year 6 will be held on Wednesday, 3rd June at Cardiff Metropolitan University on the Cyncoed campus. The pupils will come to school as usual in the morning and buses will then take the children over to Cyncoed. We will return to school to eat lunch.
The Sports Day will start at 10am and end at midday.
All children will need to wear the school’s PE kit (black shorts/leggings and the school’s PE T-shirt or light blue T-shirt). All pupils will need a bottle of water and they are welcome to bring healthy snacks.
As always, all families are extended a warm welcome to watch the Mabolgampau. We kindly ask that parents remain seated in the upstairs viewing area and do not come downstairs to speak with the children during the event.
If you are taking photos of your child during the morning we kindly ask that you do not share the pictures on social media if other children are also in the pictures. We look forward to seeing you there.
Cofion cynnes,
Mrs H Sharkey
