Skip to content ↓

3C

Croeso i 3C!

Helo a chroeso cynnes i ddosbarth 3C.

Rydyn ni yn 3C yn blant hapus a chyffrous sydd wrth ein boddau yn chwarae ac yn dysgu am bethau newydd. Rydyn ni wrth ein boddau yn darllen ac yn trin llyfrau newydd o bob math.

Rydyn ni’n greadigol ac yn hoffi lliwio, ysgrifennu a chreu gwaith celf.  

Rydyn ni'n blant parchus sydd bob amser yn dangos caredigrwydd i'n gilydd ac i bobl eraill.

Fel dosbarth rydym ni wedi penderfynu bod cyfeillgarwch, parch, hiwmor, cariad, caredigrwydd a diolchgarwch yn bwysig er mwyn i ni dyfu a llwyddo yn nosbarth 3C.

Ein thema'r tymor hwn yw 'Dyma fi' ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ddysgu am ein hardal leol, beth sydd yn gwneud hyn yn arbennig ac am y bobl sydd yn byw yna. Rydyn ni hefyd yn mynd i drafod beth yw hi’n golygu i fod yn Gymro neu yn Gymraes. Rydyn ni'n edrych ymlaen at flwyddyn brysur yn llawn profiadau newydd.

Miss C Maddern & Miss H Roberts

Gwybodaeth i Rieni

Cwrdd â’r athro / Meet the Teacher

Google Classrooms