4C
Croeso i 4C!
Shwmae? Croeso i ddosbarth 4C.
20 plentyn cwrtais a pharchus sydd yn ein dosbarth ni!
Ein thema'r tymor yma yw ‘Cynefin’, ac rydym yn gyffrous iawn i chwilota yn ein hardal leol a dysgu am yr hanes gwerthfawr am y Lan! Os oes gennych unrhyw adnodd neu wybodaeth i’w rhannu, rhowch wybod, mi fyddem yn eu gwerthfawrogi’n fawr!
Mi fyddwn yn parhau i ddefnyddio Google Classroom fel arf i gefnogi’r dysgu. Byddwn yn darparu gwybodaeth a gweithgareddau yn gyson arno. Er mwyn dysgu fwy am yr adnodd, darllenwch y wybodaeth sydd wedi ei atodi o dan y pennawd 'Google Classrooms'.
Yn ein dosbarth, rydym yn anelu i fod yn uchelgeisiol, yn gefnogol, ac i lwyddo. Er mwyn ein galluogi i fod ar ein gorau, penderfynodd Dosbarth 4C ar bedwar anghenion dysgu am y flwyddyn, sef:
Parch: Rydym yn dangos caredigrwydd a gofal tuag at bobl, adnoddau ac ein hamgylchedd dysgu, ac rydym am drin ein gilydd fel yr hoffem ni gael ein trin er mwyn cadw’r dosbarth yn ddiogel, yn dawel ac yn deg.
Gonestrwydd: Rydym am ddweud y gwir gyda’n hunain a phobl eraill, hyd yn oed os yw’n anodd ar adegau.
Empathi: Rydym yn mynd i geisio ein gorau glas i roi ein hunain yn esgidiau rhywun arall blwyddyn yma er mwyn deall a theimlo sut mae rhywun arall yn teimlo mewn sefyllfaoedd gwahanol.
Hiwmor: Rydym eisiau creu mwynhad wrth ddysgu ac rydym eisiau chwerthin gyda’n gilydd heb wneud hwyl ar ben neb.
Mi fydd ein dosbarth yn cael cyfle i ymarfer hwn trwy gydol ei hamser ym mlwyddyn 4 a bydd yr anghenion dysgu yn helpu ni i ofalu am ein gilydd, i fwyhau’r dysgu a chreu dosbarth hapus.
Diolch am eich cefnogaeth barhaol a chofiwch i gysylltu os yr hoffech drafod unrhyw fater.
Miss L Jones
Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwyr
Google Classrooms
Gweithgareddau i gefnogi darllen Cymraeg
Gweithgareddau i gefnogi ysgrifennu yn y Gymraeg
Gweithgareddau i gefnogi darllen Saesneg
Gweithgareddau i gefnogi'r Fathemateg
- Adolygu ffeithiau adio a lluosi.pdf
- Adolygu ffeithiau tynnu a rhannu.pdf
- Pos yr Wythnos Blwyddyn 4.pdf
Canllawiau HWB
Apiau Cymraeg defnyddiol
-
Y Cliciadur Papur newydd addas ar gyfer diagyblion CA2
-
E-lyfrau / Cyfres o E-lyfrau i blant sydd wedi ei gyhoeddi am ddim
-
Canllawiau Hwb i rieni a warchodwyr Canllawiau Hwb i rieni a warchodwyr ar ffurf clipiau fideo
-
Gweithgareddau iechyd a lles emosiynol awgrymir gan Ysgol Gwaelod y Garth Awgrymiadau o weithgareddau y gellir ei ddefnyddio gyda'ch plentyn er mwyn sicrhau iechyd a lles emosiynol da
-
Mathiadur Geiriadur ar gyfer termau Mathematego
-
Rhaglenni Cymraeg Beth am ddatblygu eich Cymraeg drwy wylio rheglenni cyffrous trwy gyfrwng y Gymraeg?
-
Amser i wastraffu? Beth am ddysgu drwy ddarllen amrywiaeth o gylchgronnau digidol?
-
Eisiau gwybod beth sy'n digwydd yn y byd? Cadw'ch lan gyda'r holl newydddion gan drwy wefan 'Newsround'
Edrych ar ôl lles



