5C
Croeso i 5C!
Shwmae? Croeso i ddosbarth 5C!
Rydyn ni’n ddosbarth arbennig – yn garedig, yn gwrtais ac yn hapus! Eleni, ein thema yw Cynefin, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddysgu llawer am y lleoedd sy’n bwysig i ni yng Nghymru a’r byd o’n cwmpas. Os oes gennych unrhyw adnoddau defnyddiol mae croeso mawr i'r plant ddod â nhw mewn i'r ysgol.
Byddwn yn defnyddio Google Classrooms i rannu gwybodaeth, tasgau a gweithgareddau gyda’r plant a’u teuluoedd. I ddysgu mwy am sut mae’n gweithio, darllenwch y wybodaeth sydd wedi’i hatodi o dan y pennawd ‘Google Classrooms’.
Ym 5C, rydym eisiau fod pawb yn teimlo fel rhan o deulu. Dyma’r pethau pwysig y cytunodd 5C ar gyfer eleni – pethau sy’n helpu i wneud ein dosbarth yn lle gwych i fod ynddo.
Perthyn - Mae perthyn yn golygu ein bod ni’n teimlo ein bod yn rhan o’r dosbarth. Rydyn ni’n teimlo’n gyfforddus, yn ddiogel ac yn gwybod bod lle i ni yma. Mae pawb yn bwysig ac yn cael eu derbyn.
Parch - Mae parch yn golygu ein bod ni’n trin ein gilydd yn hafal. Rydyn ni’n gwrando ar bawb, yn siarad yn garedig ac yn gofalu am bethau a phobl o’n cwmpas.
Hiwmor - Mae hiwmor yn golygu ein bod ni’n gallu chwerthin gyda’n gilydd. Mae’n iawn i gael hwyl, ond rydyn ni’n sicrhau nad yw’n brifo neb. Mae hiwmor yn helpu i wneud y dosbarth yn le hapus.
Cariad - Mae cariad yn golygu ein bod ni’n gofalu am ein gilydd. Rydyn ni’n dangos cefnogaeth, yn helpu pan mae rhywun angen cymorth ac yn bod yn garedig bob dydd.
Cyfeillgarwch - Mae cyfeillgarwch yn golygu bod gennym ffrindiau yn y dosbarth. Rydyn ni’n chwarae gyda’n gilydd, yn rhannu ac yn cefnogi ein gilydd fel tîm.
Diolch am eich cefnogaeth parhaol a chofiwch i gysylltu os yr hoffech drafod unrhyw fater.
Mrs C Jones
Gweithgareddau i gefnogi dysgu
-
Cylchgrawn Gweiddi Gwefan yn cynnwys cylchgrawn Cymraeg am ddim
-
Cylchgrawn Cliciadur Cylchgrawn Cymraeg i blant Cam Cynydd 3