6C
Croeso i 6C!
Shwmae? Croeso i ddosbarth 6C.
Rydyn ni'n ddosbarth gwych, parchus, cwrtais a hapus fel y gôg a'r tymor yma ein thema yw Cynefin. Os oes gennych unrhyw adnoddau defnyddiol mae croeso mawr i'r plant ddod â nhw mewn i'r ysgol.
Eleni, mi fyddwn yn rhannu llawer o wybodaeth a gweithgareddau gan ddefnyddio 'Google Classrooms'. Er mwyn dysgu fwy am yr adnodd, darllenwch y wybodaeth sydd wedi ei atodi o dan y pennawd 'Google Classrooms'.
Yn ein dosbarth, rydym yn credu’n gryf mewn creu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael y cyfle i lwyddo. Eleni, cytunodd y dosbarth mai dyma eu anghenion ym mlwyddyn 6:
Parch: Rydym yn gwrando ar ein gilydd, yn trin pawb â charedigrwydd ac yn gofalu am ein hamgylchedd.
Tegwch: Rydym yn chwarae’n deg, yn rhannu cyfleoedd ac yn sicrhau bod pawb yn cael llais.
Positifrwydd: Rydym yn annog ein gilydd, yn edrych ar yr ochr olau o bethau ac yn credu yn ein gallu i dyfu.
Empathi. Meddwl: “Sut fyddwn i'n teimlo pe bai hynny'n digwydd i mi?” Dweud: “Rwyf yma i ti” neu “Mae rhaid fod hynny wedi bod yn anodd.” Cynnig cymorth neu cysur.
Diogelwch. Pan mae plant yn teimlo’n ddiogel, maen nhw’n fwy tebygol o gymryd risgiau yn y dysgu, adeiladu cyfeillgarwch, a thyfu i fod yn unigolion hyderus.
Mae’r gwerthoedd hyn yn dod yn fyw trwy eu ymddygiad bob dydd—boed hynny mewn gwaith tîm, datrys problemau neu dathlu llwyddiannau.
Diolch am eich cefnogaeth parhaol a chofiwch i gysylltu os yr hoffech drafod unrhyw fater.