Skip to content ↓

6C

Croeso i 6C!

Shwmae? Croeso i ddosbarth 6C.

Mae 27 o ddisgyblion yn ein dosbarth eleni, ac rydym yn griw doniol a gweithgar sy’n mwynhau dysgu a chael hwyl gyda’n gilydd!

Ein thema y tymor hwn yw ‘Dyma Fi’, a’n cwestiwn allweddol yw:

Sut mae deall pwy ydw i a ble rwy’n perthyn yn fy helpu i ddeall fy hun, eraill a’r byd o’n cwmpas?

Drwy ein dysgu, byddwn yn cael cyfleoedd i feddwl am bwy ydym ni, beth sy’n ein gwneud ni’n unigryw, y bobl a’r lleoedd sy’n bwysig i ni, a sut rydym yn perthyn i’n cymuned a’r byd o’n cwmpas.

Yn 6C, rydym am i bawb deimlo’n hapus, yn ddiogel ac yn rhan bwysig o’r dosbarth. Gyda’n gilydd, rydym wedi cytuno ar bum peth sydd eu hangen arnom er mwyn dysgu, tyfu a bod yn hapus gyda’n gilydd:

Hiwmor – Rydym yn hoffi chwerthin a chael hwyl gyda’n gilydd. Mae hiwmor yn gwneud ein dosbarth yn lle hapus, ond rydym bob amser yn gwneud yn siŵr bod ein hwyl yn garedig ac nad yw’n brifo nac yn ypsetio unrhyw un.

Parch – Rydym yn gwrando ar ein gilydd, yn siarad yn garedig ac yn parchu teimladau, syniadau a barn pobl eraill.

Tegwch – Rydym yn credu ei bod yn bwysig bod pawb yn cael eu trin yn deg. Nid yw tegwch bob amser yn golygu bod pawb yn cael yr un peth, ond bod pawb yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt.

Gonestrwydd – Rydym yn dweud y gwir, yn cymryd cyfrifoldeb am ein gweithredoedd ac yn gwneud ein gorau i wneud y peth iawn. Mae bod yn onest yn ein helpu i ymddiried yn ein gilydd.

Cael fy nerbyn – Rydym am i bawb deimlo eu bod yn cael eu derbyn am bwy ydyn nhw. Rydym i gyd yn wahanol ac yn unigryw, ac mae lle pwysig i bob un ohonom yn 6C.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus. Mae croeso i chi gysylltu os oes unrhyw beth yr hoffech ei drafod.

Mrs C Jones & Mrs L Williams

Gwybodaeth i Rieni

Cwrdd a'r Athro / Meet the Teacher

Google Classrooms