Llywodraethwyr
Croeso i adran y Llywodraethwyr
Amcanion y llywodraethwyr yw cefnogi'r Uwch Dîm Arwain yn y gwaith o redeg yr ysgol o ddydd i ddydd. Maent yn gyfrifol yn y pen draw ar gyfer yr ysgol ac maent yn weithredol mewn meysydd cwricwlwm, cyllid, Iechyd a Diogelwch, adeiladau a staffio. Maent yn cwrdd bob tymor ar gyfer cyfarfod y corff llywodraethu llawn gyda'r is-bwyllgorau yn cyfarfod bob tymor os a phan fo angen. Mae pob llywodraethwr wedi ei gysylltu â maes pwnc neu agwedd o fewn yr ysgol.
Beth yw Llywodraethwr Ysgol?
Grŵp o bobl sydd yn adlewyrchu'r gymuned yn yr ysgol. Gwella perfformiad yr ysgol yw prif flaenoriaeth y corff llywodraethu. Gan weithio ochr yn ochr â'r pennaeth a'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth (UDA), mae'r corff llywodraethol yn chwarae rhan hanfodol mewn darparu'r cyfleoedd a'r amgylchedd dysgu priodol sy'n annog pobl ifanc i lwyddo.
Mae gan lywodraethwyr rôl strategol sy'n golygu sicrhau bod gan yr ysgol nodau a gweledigaeth glir sy'n cael ei gefnogi gan gymuned yr ysgol. Yn y rôl hon mae'r llywodraethwyr yn gweithio'n agos gyda staff i sicrhau bod gan yr ysgol yr holl adnoddau sydd ei angen a bod y rhain yn cael eu defnyddio'n effeithiol ac yn unol â'r cynlluniau y cytunwyd arnynt. Rhan o'u rol fel cyfaill beirniadol yw monitro a gwerthuso sut y mae'r ysgol yn symud ymlaen tuag at ei nodau. Fel cyfaill beirniadol, mae angen i lywodraethwyr ofyn cwestiynau anodd ond mae hefyd angen iddynt i ddathlu llwyddiannau'r ysgol.
Gweler isod strwythur ac aelodau o'r Bwrdd Llywodraethol.
Cadeirydd:
Dona Lewis
Is-gadeirydd:
Meurig Jones
Pennaeth:
Helen Sharkey
Clerc y Llywodraethwyr:
Emma Taylor
Llywodraethwyr Awdurdod Lleol:
Rhys James
Meurig Jones
Fflur Rowlands
Llywodraethwyr Cymunedol:
Huw Jones
Dona Lewis
Cath Thomas
Elin Willson
Rhiant Lywodraethwyr:
Huw Darch
James Francis
Stephanie Ward
Staff:
Wendy Owen
Debbie Thole
