Diogelu
Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am ddiogelu ac amddiffyn y plant sy’n mynychu’r ysgol.
Mrs Helen Sharkey (Pennaeth) yw'r Uwch Berson Dynodedig (DSP) ar gyfer diogelu ac amddiffyn plant. Yn ei habsenoldeb, Mr Owain Jones neu Mrs Wendy Owen sy'n gyfrifol.
Y Llywodraethwr Dynodedig ar gyfer Amddiffyn Plant yw Mrs Sara Brown.
Gellir cysylltu â phob un ar 029 2081 0489.
Mae holl staff yr ysgol yn derbyn hyfforddiant blynyddol mewn materion diogelu ac amddiffyn plant. Pan fydd pryderon yn codi, bydd y staff yn cyfeirio at yr Uwch Berson Dynodedig (DSP) yn y lle cyntaf, neu at y Dirprwy DSP yn ei habsenoldeb. Bydd staff yn cyfeirio at swyddogion diogelu'r sir lle bo angen cyngor neu gymorth pellach.
Os oes gan rieni bryderon sy'n ymwneud ag unrhyw agwedd ar les eu plant, dylent gysylltu â'r ysgol i drafod.
Lle mae pryderon yn ymwneud ag amddiffyn plant, dylid cysylltu â Mrs Sharkey ar unwaith.
Dylid codi unrhyw bryderon diogelu sy'n ymwneud â'r Pennaeth gyda Chadeirydd y Llywodraethwyr, Non Gwilym.
Mae Polisi Amddiffyn a Diogelu Plant yr ysgol ar gael o swyddfa'r ysgol.