Skip to content ↓

Croeso

Ysbrydoli – Cefnogi – Llwyddo

Croeso i'n gwefan. Os ydych yn ystyried ymuno â ni am y tro cyntaf neu eisoes yn rhan o gymuned glos ein hysgol, gobeithiwn y byddwch yn gweld bod ein gwefan yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol. Gobeithiwn hefyd eich bod yn teimlo ei fod yn dryw i ethos ein hysgol a’r profiadau lu sydd gennym i’w cynnig.

Mae Ysgol Gynradd Gwaelod y Garth yn ysgol gymunedol lwyddiannus sy’n rhoi blaenoriaeth bob amser i les ac anghenion ein plant. Anelwn at sicrhau bod pob plentyn yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel, yn cael hwyl wrth ddysgu ac yn cael eu hysbrydoli. Mae yma dîm ymroddgar a brwdfrydig o staff a llywodraethwyr sy'n sicrhau bod yr ysgol yn ysgogi plant i ddysgu, i ffynnu ac i lwyddo. Rydym yn gosod disgwyliadau uchel a'n nod yw galluogi pob un o'n plant i fod yn ddysgwyr hyderus ac annibynnol sy'n anelu am y brig ac yn cyflawni eu llawn potensial. Rydym yn gweithio'n agos gyda’n teuluoedd i sicrhau hyn.

Rydym yn ysgol ffrwd-ddeuol sy'n darparu addysg i'n disgyblion drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, yn ddibynnol ar ddewis rhieni. Mae'r cydweithio rhwng y ffrwd Gymraeg a Saesneg yn nodwedd unigryw o'r ysgol a rhown statws a phwysigrwydd cyfartal i'r ddwy iaith.

Ymfalchïwn yn ein hethos gynhwysol sydd yn meithrin ac yn cefnogi pob plentyn fel aelodau gwerthfawr o gymuned yr ysgol. Anelwn bob amser at alluogi ein dysgwyr, nawr ac yn y dyfodol, i fod yn unigolion iach ac hyderus ac i fod yn ddysgwyr effeithiol, yn gyfranwyr effeithiol ac yn ddinasyddion effeithiol.

Rydym yn ffodus o leoliad yr ysgol yng nghanol cymuned y Garth a'r holl sydd yma i’w gynnig. Manteisiwn ar gyfleoedd i ddysgu yn yr awyr agored o fewn a thu hwnt i safle gwyrdd yr ysgol a chymerwn fantais o bob cyfle i ymgysylltu â'n cymuned ehangach. Mae'r byd natur, y daearyddiaeth a'r hanes sydd yn amgylchynu ein hysgol unigryw yn rhan bwysig o'n cwricwlwm.

Gobeithiwn y bydd ein gwefan yn rhoi blas i chi o’r addysgu a’r dysgu sydd yn digwydd yn yr ysgol a’r hyn sy'n gwneud ein hysgol mor unigryw. Estynnwn wahoddiad i chi gysylltu â swyddfa’r ysgol os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drefnu apwyntiad i ymweld â ni. Mae’r croeso bob amser yn gynnes yma!

Mrs H Sharkey

Pennaeth

Estyn (Rhagfyr 2019):

 

"Mae Ysgol Gynradd Gwaelod y Garth yn groesawgar ac mae’r staff yn ofalgar o’r disgyblion.”

Mae rhan fwyaf y disgyblion yn datblygu’n ddysgwyr hyderus, yn gwneud cynnydd cadarn ac yn cyflawni’n dda.”

Mae’r disgyblion yn ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg a’r cysylltiadau agos sydd ganddynt â’r gymuned leol.”