Skip to content ↓

Podlediad Gair o'r Garth

Croeso i ‘Gair o’r Garth’, podlediad newydd a chyffrous Ysgol Gynradd Gwaelod-y-Garth, ble byddwn yn ymchwilio i fyd hudolus profiadau plentyndod o fewn ein cymuned ysgol fywiog.

Ym mhob pennod, byddwn yn gwahodd plant o wahanol flynyddoedd i rannu eu straeon a’u safbwyntiau ar fywyd yn Ysgol Gwaelod-y-Garth. O’r cyffro o ddysgu rhywbeth newydd i’r heriau y maent yn eu hwynebu, mae ein podlediad yn rhoi llwyfan i’n dysgwyr ifanc fynegi eu hunain. Ymunwch â ni ar y daith gyffrous hon wrth i ni wrando ar y chwerthin a’r straeon sy’n gwneud cymuned ein hysgol mor arbennig.

Podlediadau

Pennod 1: Y Llysgenhadon Lles

Ym mhennod gyntaf Gair o'r Garth, mae Mr Owen yn eistedd lawr am sgwrs gyda merched o flynyddoedd 4 a 5 sy'n aelodau o'r Llysgenhadon Lles. Yn ystod y podlediad mae'r merched yn esbonio'r rhesymau a'u denodd i ymuno â'r pwyllgor yn ogystal â phwysleisio eu cymhellion a'u hangerdd dros ddatblygu a hyrwyddo lles o fewn cymuned yr ysgol.

Cliciwch y linc isod i wrando.

Pennod 1: Y Llysgenhadon Lles

Pennod 2: Y Dreigiau Doeth

Yn ail bennod Gair o'r Garth, mae Mr Owen yn eistedd lawr am sgwrs gyda phedair o ferched o'r Dreigiau Doeth, pwyllgor sy'n hybu'r iaith Gymraeg yn yr ysgol. Mae'r merched yn rhannu pam fod y Gymraeg yn bwysig iddynt, yn trafod y strategaethau newydd y maent wedi'u cyflwyno i godi proffil a safonau'r iaith o amgylch yr ysgol, ac yn cynnig cyngor ymarferol i gymuned yr ysgol ar siarad Cymraeg. Mae eu hangerdd a'u hymrwymiad yn disgleirio, gan wneud hon yn bennod ysbrydoledig ac addysgiadol.

Cliciwch y linc isod i wrando.

Pennod 2: Y Dreigiau Doeth

Pennod 3: G Dance

Yn y drydedd bennod o Gair o’r Garth, camwn mewn i fyd dawns wrth i ni sgwrsio â phedwar aelod o’r grŵp poblogaidd G Dance! Yn y bennod hon, maen nhw’n rhannu eu hoff symudiadau, eu profiadau yn y dosbarth, ac mae hyd yn oed gêm neu ddwy i gadw pethau’n hwyl. Hefyd, mae Miss Rebecca Thomas – arweinydd G Dance – yn ymuno â ni ar y diwedd i rannu ei phrofiadau o arwain y clwb. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrando!

Pennod 3: G Dance

 

Pennod 4: Gwobr Aur y Siarter Iaith

Ym mhennod olaf y flwyddyn, rydym yn ymuno â’r Dreigiau Doeth – grŵp o ddisgyblion angerddol sydd wedi helpu’n hysgol i gyflawni rhywbeth anhygoel: Gwobr Aur y Siarter Iaith!

Gwrandewch wrth iddyn nhw rannu’u taith – gan drafod y mentrau cyffrous y maen nhw wedi’u harwain a’r ffyrdd creadigol y maen nhw wedi hyrwyddo’r Gymraeg yn yr ysgol. Rydym hefyd yn eistedd i lawr am sgwrs gyda Mrs Darch, yr athrawes oedd wedi arwain ac ysbrydoli’r plant ar hyd y daith.

Pennod 4: Gwobr Aur y Siarter Iaith

Pennod 5: Trychineb Pwll Glo’r Llan

Yn y bennod arbennig hon o Gair o’r Garth, mae Mr Owen yn eistedd i lawr gyda phedwar disgybl o Flwyddyn 4 i drafod un o ddigwyddiadau mwyaf trist y pentref - trychineb Pwll Glo’r Llan. Mae’r bennod yn trafod beth ddigwyddodd yn ystod y trychineb, sut effeithiodd ar y gymuned, a pham mae’n dal i gael ei gofio heddiw. Mae’r disgyblion yn rhannu’r hyn maent wedi’i ddysgu drwy eu gwaith ymchwil a’r effaith a gafodd y trychineb ar y teuluoedd a’r ardal.

Yn ogystal, mae’r plant yn adrodd am eu profiadau’n cymryd rhan yn y gwasanaeth coffa arbennig i nodi 150 mlynedd ers y digwyddiad, a sut mae’r diwrnod wedi helpu nhw i ddeall pwysigrwydd cofio’r gorffennol.

Cliciwch y linc isod i wrando:

Pennod 5: Trychineb Pwll Glo'r Llan

Pennod 6: Y Llysgenhadon Lles

Yn y bennod ddiweddaraf o Gair o’r Garth, mae Mr Owen yn eistedd i lawr gyda phedair o Lysgenhadon Lles yr ysgol i drafod eu gwaith caled a’u hymroddiad dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r bennod yn canolbwyntio ar y daith a arweiniodd at ennill y wobr arian fel Ysgol sy’n Parchu Hawliau gan archwilio sut mae’r disgyblion wedi helpu i hyrwyddo hawliau plant a lles ar draws yr ysgol.

Mae’r Llysgenhadon yn rhannu’r profiadau maent wedi eu derbyn fel rhan o’r daith, yn ogystal â’r sgiliau a ddatblygwyd ganddynt wrth weithio gyda’i gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymuned yr ysgol. Maent hefyd yn myfyrio ar bwysigrwydd sicrhau bod pob plentyn yn teimlo’n ddiogel, yn cael ei barchu ac yn cael llais.

Yn ogystal, mae’r plant yn trafod beth mae ennill y Wobr Arian yn ei olygu i’r ysgol a’u gobeithion ar gyfer parhau â’r gwaith pwysig hwn yn y dyfodol.

Cliciwch y linc isod i wrando.

Pennod 6: Y Llysgenhadon Lles
 

Episode 6: The Wellbeing Ambassadors

In the latest episode of Gair o’r Garth, Mr Owen sits down with four of the school’s Wellbeing Ambassadors to discuss their hard work and dedication over the past year. The episode focuses on the journey that led to achieving the Silver Rights Respecting School award, exploring how the pupils have helped promote children’s rights and wellbeing across the school.

The Wellbeing Ambassadors share the experiences they have gained as part of the journey, as well as the skills they developed while working together to make a positive difference to the school community. They also reflect on the importance of ensuring that every child feels safe, respected, and heard.

In addition, the children discuss what winning the Silver Award means to the school and their hopes for continuing this important work in the future.

Click the link below to listen.

Episode 6: The Wellbeing Ambassadors