Skip to content ↓

1C

Croeso cynnes i 1C

Mae Dosbarth 1C yn cynnwys 20 o blant caredig, parchus a chwrtais sy’n dod i’r ysgol bob dydd yn barod ac yn awyddus i ddysgu. Maent yn mwynhau cael hwyl, archwilio syniadau newydd a byrlymu yn eu dysgu drwy amrywiaeth o weithgareddau ymarferol a chreadigol.

Ein cysyniad y tymor hwn yw 'Dyma fi', lle byddwn yn canolbwyntio ar ddod i adnabod ein hunain a’r bobl sy’n bwysig yn ein bywydau. Byddwn hefyd yn dysgu am bwysigrwydd cadw ein cyrff a’n dannedd yn iach, gan ddatblygu dealltwriaeth o sut i ofalu amdanom ein hunain a gwneud dewisiadau cadarnhaol bob dydd.

Ein Hanghenion Dysgu

Mae plant 1C wedi penderfynu mai'r gwerthoedd canlynol fydd yn bwysig iawn i ni eleni:

  • Parch

  • Bod yn ofalgar

  • Annogaeth

  • Cyfeillgarwch

Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod y gwerthoedd hyn yn rhan amlwg o’n dysgu a’n bywyd bob dydd yn yr ysgol.

Cadw Mewn Cysylltiad

Byddwn yn rhannu lluniau o weithgareddau a phrofiadau'r plant drwy SeeSaw ac ar ein tudalen Instagram. Byddwn hefyd yn rhannu perfformiadau, adnoddau a thasgau addysgiadol drwy Google Classroom.

Er mwyn dysgu mwy am sut i ddefnyddio'r adnodd hwn, darllenwch y wybodaeth sydd wedi’i hatodi o dan y pennawd "Google Classroom".

Sut Gallwch Gefnogi Eich Plentyn Gartref?

Gallwch gefnogi dysgu eich plentyn drwy:

  • Gyfri gwrthrychau bob dydd ac ymarfer adnabod rhifau.
  • Siarad a thrafod digwyddiadau'r dydd i ddatblygu iaith a hyder.
  • Darllen straeon gyda'ch plentyn a thrafod y cymeriadau a'r digwyddiadau.
  • Annog cyfathrebu drwy ofyn cwestiynau a gwrando ar eu syniadau.
  • Ymarfer sgiliau Cymraeg a Saesneg mewn sefyllfaoedd bob dydd.
  • Trafod ffyrdd o gadw’n iach, gan gynnwys bwyta’n iach, ymarfer corff a glanhau dannedd yn rheolaidd.

Edrychwn ymlaen at flwyddyn gyffrous o ddysgu, datblygu a chreu atgofion arbennig gyda Dosbarth 1C!

Miss A Hughes & Mrs S Moreno

Gwybodaeth i Rieni / Gwarcheidwyr

Cwrdd a'r athro / Meet the Teacher

Google Classrooms