4C
Croeso i 4C!
Shwmae? Croeso i ddosbarth 4C.
Gwerthoedd 4C 2026-27
Hiwmor – mae chwerthin yn gwneud i chi wenu ac yn 4C rydym yn mwynhau chwerthin a gwenu gyda’n gilydd. Rydym yn griw o blant hapus sydd yn mwynhau jôcs, gemau hwyl, cyfnodau lles a dysgu gyda gwen.
Cyfeillgarwch – mae 4C yn teimlo fod cyfeillgarwch yn helpu ni i deimlo’n hapus, yn ddiogel ac yn rhan o’r dosbarth. Trwy gyfeillgarwch, rydym yn dysgu sut i rannu, gwrando, cydweithio, dangos caredigrwydd a datrys anghytundebau. Mae ein cyfnodau lles yn y dosbarth yn bwysig ar gyfer hyn.
Sensitifrwydd – rydym o’r farn fod sensitifrwydd yn bwysig ac ein bod yno i gefnogi ein gilydd. Rydym yn mwynhau Cylchoedd Croeso ar fore Dydd Llun ac yn sensitif i anghenion neu theimladau ein gilydd.
Diolchgarwch - mae bod yn gwrtais yn bwysig i ni, yn enwedig bod yn ddiolchgar. Rydym yn ddiolchgar am bopeth rydym yn profi yn yr ysgol, y gwersi, tripiau a’r gefnogaeth.
Parch – mae parch yn holl bwysig i ni yn 4C. Parch at ein gilydd fel ffrindiau ac at adnoddau’r ysgol a’r dosbarth. Rydym yn ymdrechu i barchu pawb a phopeth ac yn disgwyl parch yn ôl gan eraill hefyd.
