1C
Croeso cynnes i 1C
Rydyn ni yn 1C yn blant hapus a chyffrous sydd wrth ein boddau yn chwarae ac yn darganfod pethau newydd. Rydyn ni yn hoff iawn o ganu a dysgu bob math o arwyddion Makaton i gyd fynd a'r geiriau! Rydyn ni'n blant parchus sydd bob amser yn dangos caredigrwydd i'n gilydd ac i bobl eraill. Fel dosbarth rydym ni wedi penderfynu bod parch, caredigrwydd a hapusrwydd yn bwysig er mwyn i ni dyfu a llwyddo yn nosbarth 1C.
Ein thema'r tymor hwn yw 'Cynefin' ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ddysgu am ein hardal leol, beth sydd yn gwneud hyn yn arbennig ac am y bobl sydd yn byw yna. Rydyn ni'n edrych ymlaen at flwyddyn llawn bwrlwm!
Miss Maddern a Mrs Jones
Er mwyn eich galluogi i ymarfer darllen adref , rydym ni wedi gosod rhai o lyfrau Tric a Chlic a Chyfres Ddarllen Coeden Rhydychen yma. Gobeithio bydd hyn o gymorth i chi.