Skip to content ↓

3C

Croeso i 3C!

Helo a chroeso cynnes i ddosbarth 3C.

Rydyn ni’n ddosbarth hapus, cwrtais a chyfeillgar! Credwn fod dysgu yn fwy pleserus pan rydyn ni’n cefnogi ein gilydd, yn trin pawb gyda pharch ac yn cael llawer o hwyl. Ein thema am y tymor cyntaf yw ‘Cynefin’. Os oes gennych unrhyw adnoddau defnyddiol mae croeso mawr i'r plant ddod â nhw mewn i'r ysgol. 

Eleni, byddwn yn rhannu ein gwaith a’n llwyddiannau drwy Google Classrooms ac yn annog ein gilydd i feddwl yn greadigol, herio’n hunain a mwynhau’r daith dysgu.

Yn 3C rydym wedi cytuno ar ein gwerthoedd:

Positifrwydd – rydyn ni’n edrych ar yr ochr orau, yn rhoi cynnig ar bethau newydd ac yn credu yn ein hunain.

Caredigrwydd – rydyn ni’n dangos parch, yn helpu ein ffrindiau ac yn creu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo’n werthfawr.

Hiwmor – rydyn ni’n chwerthin gyda’n gilydd, cael llawer o hwyl ac yn cofio ein bod yn dysgu o’n camgymeriadau.

Gyda’r gwerthoedd hyn, rydyn ni’n barod am flwyddyn lawn dysgu, hwyl a chyfeillgarwch!

Diolch am eich cefnogaeth barhaol a chofiwch i gysylltu os yr hoffech drafod unrhyw fater.

Mr G Owen

Gwybodaeth i Rieni

Google Classrooms

Gweithgareddau i genfogi darllen Cymraeg 

Gweithgareddau i gefnogi Ysgrifennu yn y Gymraeg 

Gweithgareddau i gefnogi darllen Saesneg

Gweithgareddau i gefnogi sgiliau Ysgrifennu Saesneg

Gweithgareddau i gefnogi'r Fathemateg

Cyfle i fod yn greadigol

Edrych ar ôl ein lles

Canllawiau Hwb

Apiau Cymraeg Defnyddiol

  • Datblygu sgiliau codio / Improve coding skills Manteisiwch ar y cyfle i lawrlwytho’r rhaglen ‘Minecraft’ am ddim er mwyn datblygu eich sgiliau codio / Take advantage of the free version of Minecraft in order to develop your coding skills.

  • E-lyfrau / E-books Cyfres o E-lyfrau i blant sydd wedi ei gyhoeddi am ddim / A series of free E-books published for children