Skip to content ↓

4C

Croeso i 4C!

Shwmae? Croeso i ddosbarth 4C.

 

Gwerthoedd 4C 2026-27  

Hiwmor – mae chwerthin yn gwneud i chi wenu ac yn 4C rydym yn mwynhau chwerthin a gwenu gyda’n gilydd.  Rydym yn griw o blant hapus sydd yn mwynhau jôcs, gemau hwyl, cyfnodau lles a dysgu gyda gwen.

Cyfeillgarwch – mae 4C yn teimlo fod  cyfeillgarwch yn helpu ni i deimlo’n hapus, yn ddiogel ac yn rhan o’r dosbarth. Trwy gyfeillgarwch, rydym yn dysgu sut i rannu, gwrando, cydweithio, dangos caredigrwydd a datrys anghytundebau. Mae ein cyfnodau lles yn y dosbarth yn bwysig ar gyfer hyn.

Sensitifrwydd – rydym o’r farn fod sensitifrwydd yn bwysig ac ein bod yno i gefnogi ein gilydd.  Rydym yn mwynhau Cylchoedd Croeso ar fore Dydd Llun ac yn sensitif i anghenion neu theimladau ein gilydd.

Diolchgarwch  - mae bod yn gwrtais yn bwysig i ni, yn enwedig bod yn ddiolchgar.  Rydym yn ddiolchgar am bopeth rydym yn profi yn yr ysgol, y gwersi, tripiau a’r gefnogaeth.

Parch – mae parch yn holl bwysig i ni yn 4C.  Parch at ein gilydd fel ffrindiau ac at adnoddau’r ysgol a’r dosbarth.  Rydym yn ymdrechu i barchu pawb a phopeth ac yn disgwyl parch yn ôl gan eraill hefyd.  

Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwyr

Google Classrooms