Skip to content ↓

5C

Croeso i 5C!

Shwmae? Croeso i ddosbarth 5C.

23 plentyn cwrtais a pharchus sydd yn ein dosbarth ni!

Ein thema'r tymor yma yw ‘Dyma fi’, a byddwn yn dathlu ein hunaniaeth, ein gwerthoedd a'r hyn sy'n ein gwneud yn unigryw.

Os oes gennych unrhyw adnodd neu wybodaeth i’w rhannu, rhowch wybod, mi fyddem yn eu gwerthfawrogi’n fawr!

Mi fyddwn yn parhau i ddefnyddio Google Classroom fel arf i gefnogi’r dysgu. Byddwn yn darparu gwybodaeth a gweithgareddau yn gyson arno. Er mwyn dysgu fwy am yr adnodd, darllenwch y wybodaeth sydd wedi ei atodi o dan y pennawd 'Google Classrooms'.

Yn ein dosbarth, rydym yn anelu i fod yn uchelgeisiol, yn gefnogol, ac i lwyddo. Er mwyn ein galluogi i fod ar ein gorau, penderfynodd Dosbarth 5C ar bedwar anghenion dysgu am y flwyddyn, sef:

Parch: Rydym yn dangos caredigrwydd a gofal tuag at bobl, adnoddau ac ein hamgylchedd dysgu, ac rydym am drin ein gilydd fel yr hoffem ni gael ein trin er mwyn cadw’r dosbarth yn ddiogel, yn dawel ac yn deg.  

Dealltwriaeth: Rydym yn gwrando ar eraill ac yn ceisio deall eu syniadau, eu teimladau a'u profiadau. Mae hyn yn ein helpu i ddysgu gyda'n gilydd a dangos parch at bawb yn ein dosbarth.

Empathi: Rydym yn mynd i geisio ein gorau glas i roi ein hunain yn esgidiau rhywun arall blwyddyn yma er mwyn deall a theimlo sut mae rhywun arall yn teimlo mewn sefyllfaoedd gwahanol.

Hiwmor: Rydym eisiau creu mwynhad wrth ddysgu ac rydym eisiau chwerthin gyda’n gilydd heb wneud hwyl ar ben neb.

Mi fydd ein dosbarth yn cael cyfle i ymarfer hwn trwy gydol ei hamser ym mlwyddyn 5 a bydd yr anghenion dysgu yn helpu ni i ofalu am ein gilydd, i fwyhau’r dysgu a chreu dosbarth hapus.

Diolch am eich cefnogaeth barhaol a chofiwch i gysylltu os yr hoffech drafod unrhyw fater.

Mrs H Davies

Gwybodaeth i Rieni

Cwrdd a'r athro 5C / 5C's Meet the Teacher

Google Classrooms