Skip to content ↓

Blaenoriaethau 2026 - 2027

Blaenoriaethau Gwella'r Ysgol eleni yw:

Blaenoriaeth 1: Medrau Darllen

Sicrhau bod bron pob disgybl yn gwneud cynnydd cryf yn eu medrau darllen trwy ddefnyddio addysgeg sy'n seiliedig ar dystiolaeth, targedu cymorth ac ymrwymo i amgylchedd sy'n hybu darllen ar draws yr ysgol.

Blaenoriaeth 2: Cynllunio Pwrpasol

Cryfhau dulliau cynllunio i fod yn fwriadol, cydlynol a phwrpasol, yn unol â Chwricwlwm i Gymru, ac i sicrhau bod bron pob disgybl yn gwneud cynnydd da o ganlyniad i fynediad at brofiadau dysgu diddorol, dilys a phwrpasol.

Blaenoriaeth 3: Addysgeg Arloesol

Datblygu ac ymwreiddio arferion addysgu arloesol sy'n hyrwyddo cyfranogiad cadarn gan wella ansawdd dysgu a chynnig her effeithiol i bob disgybl.

Blaenoriaeth 4: Lles a Chynhwysiant

Sicrhau bod pob disgybl yn ffynnu yn gymdeithasol ac yn emosiynol trwy gryfhau’r ddarpariaeth lles o fewn amgylchedd dysgu sy’n gynhwysol ac yn deg i bawb.