Skip to content ↓

Gweledigaeth​​​​​​​

Mae Ysgol Gynradd Gwaelod y Garth yn ysgol ffrwd ddeuol, sy’n darparu addysg i’w disgyblion trwy gyfrwng Cymraeg neu Saesneg yn dibynnu ar ddewis rhieni.

Rydym wedi ein lleoli ym mhentref Gwaelod y Garth, rhyw saith milltir o ganol Caerdydd. Yr awdurdod addysg leol yw Caerdydd.

Mae dalgylch yr uned Saesneg yn cynnwys pentref Gwaelod y Garth tra bod dalgylch yr adran Gymraeg yn cynnwys Gwaelod y Garth, Tongwynlais a Treforgan.
 

Ein nod fel ysgol yw cyflwyno cwricwlwm arloesol yr 21ain ganrif a fydd yn ysbrydoli ein disgyblion ac yn eu helpu i ddatblygu’n ddysgwyr uchelgeisiol, mentrus, gwybodus a hyderus. Mae gennym dîm ymroddedig, cyfeillgar sy’n gweithio’n galed. Mae gan bob aelod o staff gyfrifoldebau am feysydd o’r cwricwlwm ac fel ysgol rydym yn darparu datblygiad proffesiynol parhaus o ansawdd uchel i’n staff. Yn ogystal â’r staff addysgu mae gennym nifer o gynorthwywyr sy’n darparu cefnogaeth werthfawr. 

Mae ein gweithgareddau allgyrsiol yn cynnwys pêl-rwyd, rygbi, pêl-droed, criced, nofio, côr, 
offerynnau cerdd, TGCh a’r Urdd. Rydym yn croesawu aelodau o gymuned yr ysgol i helpu gyda darllen, technoleg coginio a chelf.


Mae gennym Gymdeithas Rieni ac Athrawon gweithgar sy’n darparu adnoddau ychwanegol gwerthfawr i’n disgyblion a’n staff.


Mae cymuned yr ysgol yn rhan annatod ac unigryw o ethos Gwaelod y Garth a chredwn
yn gryf mai’r ffordd orau o ddarparu addysg yw trwy bartneriaeth lwyddiannus rhwng y cartref, yr ysgol a’r gymuned leol.

Gyda chymorth rhieni, rydym am feithrin cariad at ddysgu ac arfogi pob plentyn â’r cyfarpar sydd angen i lwyddo mewn bywyd.