Skip to content ↓

Derbyn

Croeso i’r Dosbarth Derbyn


Rydyn ni yn ddosbarth bywiog, caredig ac yn llawn brwdfrydedd! Rydyn ni'n blant hapus a phrysur sy'n dwlu dysgu trwy ganu a dawnsio bob dydd. Rydyn ni'n mwynhau arbrofi, darganfod pethau newydd, a chwarae'n greadigol yn ein ardaloedd dysgu amrywiol. Ein thema y tymor hwn yw ‘Cynefin – Fy myd bach i’, ac rydyn ni’n dysgu am y bobl, y llefydd a’r pethau sy’n gwneud ein byd yn arbennig. Mae pethau cyffrous yn digwydd bob dydd,ac rydyn ni wrth ein boddau yn dysgu trwy chwarae!

Gyda'n gilydd rydym wedi dewis 3 anghenion ar gyfer ein dosbarth eleni sef:

Caredigrwydd - bod yn gyfeillgar, yn gymwynasgar, ac yn ystyriol o eraill a'n hamgylchedd

Cyfeillgarwch - meithrin perthnasoedd cryf a chariadus â'n gilydd

Parch- Gofalu am ein gilydd ac edrych ar ôl eiddo y dosbarth.

Bydd ein sesiynau Addysg Gorfforol ar ddydd Llun - gofynnwn a all y plant ddod wedi'u gwisgo mewn dillad addas a chyfforddus (dim gemwaith). Rydym yn darparu byrbryd iach bob dydd ac yn cynnig llaeth neu ddŵr. Gellir talu arian byrbryd bob tymor ar Parentpay.

Edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr â chi yn ystod y flwyddyn.

Diolch am ddarllen.

Mrs Ellis a Mrs Earles

Prospectws y dosbarth Derbyn

Tric a Chlic Geirfa Cam 1

Cyfarwyddiadau Hwb 

You have not allowed cookies and this content may contain cookies.

If you would like to view this content please

Cyfarwyddiadau Hwb 

Rhowch gynnig ar beintio llun ar jit5. Cofiwch fewngofnodi i Hwb yn gyntaf. Dyma fideo defnyddiol;

https://www.just2easy.com/tools/jit/index.html

Ysgol Cyw

Llwyth o raglenni, apiau a gweithgareddau addysgiadol 

http://www.s4c.cymru/cy/ysgol-cyw/

Cynllun gwaith ysgol Cyw

Mathemateg ar eich marciau

Syniadau ar gyfer gweithgareddau

Do Re Mi Canu 

https://www.youtube.com/results?search_query=do+re+mi+canu

Addysg Ffa la la Education

https://www.youtube.com/channel/UC_owPrMTf9b8p5QaERALUZg