Derbyn
Croeso i’r Dosbarth Derbyn
Rydyn ni yn ddosbarth bywiog, caredig ac yn llawn brwdfrydedd! Rydyn ni'n blant hapus a phrysur sy'n dwlu dysgu trwy ganu a dawnsio bob dydd. Rydyn ni'n mwynhau arbrofi, darganfod pethau newydd, a chwarae'n greadigol yn ein ardaloedd dysgu amrywiol. Ein thema y tymor hwn yw ‘Cynefin – Fy myd bach i’, ac rydyn ni’n dysgu am y bobl, y llefydd a’r pethau sy’n gwneud ein byd yn arbennig. Mae pethau cyffrous yn digwydd bob dydd,ac rydyn ni wrth ein boddau yn dysgu trwy chwarae!
Gyda'n gilydd rydym wedi dewis 3 anghenion ar gyfer ein dosbarth eleni sef:
Caredigrwydd - bod yn gyfeillgar, yn gymwynasgar, ac yn ystyriol o eraill a'n hamgylchedd
Cyfeillgarwch - meithrin perthnasoedd cryf a chariadus â'n gilydd
Parch- Gofalu am ein gilydd ac edrych ar ôl eiddo y dosbarth.
Bydd ein sesiynau Addysg Gorfforol ar ddydd Llun - gofynnwn a all y plant ddod wedi'u gwisgo mewn dillad addas a chyfforddus (dim gemwaith). Rydym yn darparu byrbryd iach bob dydd ac yn cynnig llaeth neu ddŵr. Gellir talu arian byrbryd bob tymor ar Parentpay.
Edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr â chi yn ystod y flwyddyn.
Diolch am ddarllen.
Mrs Ellis a Mrs Earles
Tric a Chlic Geirfa Cam 1
Cyfarwyddiadau Hwb
Cyfarwyddiadau Hwb
Rhowch gynnig ar beintio llun ar jit5. Cofiwch fewngofnodi i Hwb yn gyntaf. Dyma fideo defnyddiol;
https://www.just2easy.com/tools/jit/index.html
Ysgol Cyw
Llwyth o raglenni, apiau a gweithgareddau addysgiadol
http://www.s4c.cymru/cy/ysgol-cyw/
Cynllun gwaith ysgol Cyw
Mathemateg ar eich marciau
Syniadau ar gyfer gweithgareddau
- Gweithgareddau cyn ysg Pre writing skills ideas.pdf
- Gweithgareddau Tric a Chlic activities.pdf
- Gweithgareddau Tric a Chlic.pdf
- Listening Skills.pdf
- Sgiliau Gwrando.pdf
Do Re Mi Canu
https://www.youtube.com/results?search_query=do+re+mi+canu
Addysg Ffa la la Education
https://www.youtube.com/channel/UC_owPrMTf9b8p5QaERALUZg