Skip to content ↓

2C

Dosbarth 2C

Shwmae? Croeso i ddosbarth 2C.

Dosbarth bywiog, hapus a gweithgar ydym ni, a’r tymor hwn ein thema yw ‘Dyma Fi’. Os oes gennych chi unrhyw adnoddau defnyddiol, mae croeso mawr i’r plant ddod â nhw i’r ysgol.
 
Eleni, byddwn ni’n rhannu llawer o wybodaeth a gweithgareddau gan ddefnyddio ‘Seesaw’ a ‘Google Classrooms’. Mae cyfle hefyd i chi weld beth sy’n digwydd yn ein hystafell ddosbarth ac ar draws yr ysgol ar y cylchlythyr wythnosol, a’n cyfrif Instagram.
 
Yn ein hystafell ddosbarth, rydym ni’n mwynhau dathlu llwyddiannau ein gilydd, dysgu yn yr awyr agored, a chreu amgylchedd cefnogol sy’n lle diogel i ddyfalbarhau a chyrraedd ein potensial llawn. Eleni, cytunodd y dosbarth mai’r canlynol yw eu hanghenion ym mlwyddyn 2:
 
Parch: Rydym ni’n gwrando ar ein gilydd, yn trin pawb â charedigrwydd ac yn gofalu am ein hamgylchedd, boed ar dir yr Ysgol neu yn ein cymuned ehangach.
 
Cariad: Rydym ni’n dangos cariad at ein gilydd trwy ddathlu ein llwyddiannau, a chefnogi ein ffrindiau trwy heriau.
 
Cyfeillgarwch: Rydym ni i gyd yn ffrindiau ac yn cefnogi ein gilydd yn nosbarth 2C.

Caredigrwydd: Rydyn ni’n ystyried teimladau ein gilydd a phob troy n gwneud ein gorau glas i fod yn garedig.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus a chofiwch gysylltu os hoffech chi drafod unrhyw faterion.

Mrs R Darch & Miss E Thompson

Cwrdd â’r athro / Meet the Teacher

Google Classrooms