Amser cinio
Mae hawl bellach gan bob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru i gael prydau ysgol am ddim erbyn. Darperir cinio i’r plant yn y neuadd.
Mae’n rhaid i deuluoedd ddewis ac archebu bwyd i bob plentyn ar-lein yn wythnosol. Gall ddisgyblion hefyd ddewis dod â phecyn bwyd i’r ysgol yn hytrach na derbyn cinio.
Er bod hawl gan bob plentyn cynradd i dderbyn cinio ysgol am ddim o Fedi 2024, fe anogwn unrhyw deuluoedd ag oedd â hawl yn flaenorol i ymgeisio am y Grant Hanfodion Ysgol gan y gall ddod â buddion eraill, gynnwys grant gwisg ysgol. Ceisiwch trwy glicio fan hyn i weld os ydych yn gymwys: Grant Hanfodion Ysgol