Menu
Home Page

Cwricwlwm i Gymru / Curriculum for Wales

                             Gweledigaeth Cwricwlwm Ysgol Gwaelod y Garth

 Mae ein cynefin yma yn ysgol Gwaelod y Garth yn darparu amrediad o gyfleoedd i’n disgyblion i fod yn ddysgwyr ymchwilgar. Mae’r ardal wledig, y goedwig a’r mynydd yn rhoi profiadau awyr agored buddiol ac yn annog annibyniaeth a chwilfrydedd. Mae’r gymuned yn rhan annatod o’n cynefin ac rydym yn cydweithio gyda’r WI a’r capel i adeiladu ar yr ymdeimlad o berthyn sy’n nodweddiadol i ni.Mae’r cyd berthynas weithredol yma yn ganolog i fywyd ysgol Gwaelod y Garth wrth i botensial pob disgybl gael ei feithrin yn yr ysgol ac yn y gymuned tu hwnt. Yn sgîl ein llwyddiannau ar lwyfan yr Eisteddfod mae profiadau allgyrsiol creadigol yn allweddol, ac yn datblygu hyder a mentergarwch ein disgyblion. Mae dwyieithrwydd yn cael ei ddathlu yn ein hysgol a’r cydweithio naturiol rhwng y ddwy ffrwd yn ein galluogi i feithrin disgyblion hyderus sy’n ymfalchio yn eu hiaith a’u diwylliant. Rydym yn annog arloesedd ac mae ein pod STEM yn rhoi’r cyfle i’n holl ddisgyblion i wthio’r ffiniau a chydweithio ar brosiectau byw er mwyn llwyddo.Bydd pob disgybl yn cael ei herio ac mae disgwyliadau uchel yn rhan annatod o’n hysgol ble does dim nenfwd. Yn sgil ein llywodraeth Llais, rydym yn annog pob disgybl i gyfrannu at fywyd ein hysgol ac i wneud penderfyniadau strategol.Cant eu hannog i wneud dewisiadau fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eu hysgol, eu cymuned, eu gwlad a’r byd ehangach. Yn sgil ein sesiynau Dathlu Dysgu, gwerthfawrogwn natur aml ddiwylliannol ein hardal a’r brif ddinas, gan annog disgyblion parchus a gofalgar sy’n dathlu eu gwahaniaethau. Yn Ysgol Gwaelod y Garth rydym yn ymfalchio yn ein hunaniaeth a bydd ein cwricwlwm yn dathlu ein hieithoedd, ein hanesion, ein diwylliant a’n cynefin.

 

 

                Cydweithio gyda'r holl rhanddeiliaid i gynllunio ein cwricwlwm

 Rydym wedi cydweithio gyda’n holl rhanddeilaid er mwyn sicrhau bod y 4 diben yn rhan annatod o’n gweledigaeth a bod y dysgwyr, y staff, y rhieni a'r llywodraethwyr yn rhan allweddol o’r broses o greu ein cwricwlwm newydd.

Dechreuwyd ar y broses o gynllunio ein cwricwlwm newydd wrth gynnal trafodaethau gyda'r disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr ar:

  •  Pam? Pam ein bod yn canolbwyntio ar y sgiliau yma? Pam ein bod yn cyflwyno’r cysyniad yma? Pam ein bod yn cyflwyno’r profiadau yma? Pam i ni’n targedu’r sgiliau yma? 
  • llwybr dysgu. Sut fydd y disgyblion yn dysgu? Sut fydd y disgyblion yn teithio ar hyd  eu continwwm dysgu? Sut allwn sicrhau profiadau pwrpasol dysgu sy’n targedu’r disgybl unigol? Beth sydd angen ar y disgybl unigol er mwyn gwneud cynnydd ar hyd y llwybr dysgu?  
  • dysgu dwys. Sut allwn sicrhau bod dyfnder a dealltwriaeth yn y dysgu? Sut allwn sicrhau bod ein disgyblion yn meddu ar wybodaeth ddwys a dealltwriaeth gref? Sut allwn sicrhau bod pob plentyn yn cael eu herio? 
  • Cynnydd. Sut allwn sicrhau fod pob disgybl yn gwneud cynnydd? Sut fyddwn yn mesur y cynnydd yma o safbwynt ein cwricwlwm newydd? 

 

 

 

 

                                                              Ein Cwricwlwm Ysgol

  • Yn Ysgol Gwaelod y Garth rydym yn anelu at ddatblygu dysgwyr hyderus, uchelgeisiol, gwybodus a chreadigol. Ein prif flaenoriaethau yw galluogi ein dysgwyr i wireddu’r pedwar diben a’u paratoi ar gyfer dysgu parhaus.
  • Mae canllawiau Cwricwlwm Cymru yn ddatganiad clir o’r hyn sy’n bwysig wrth ddatblygu addysg eang a chytbwys. Y pedwar diben yw’r weledigaeth a’r dyhead a rennir ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Ein nod yw gosod disgwyliadau uchel a galluogi pob dysgwr i gyfawni ei lawn botensial.
  • Yn Gwaelod y Garth rydym yn cynnig addysg eang a chytbwys sy’n galluogi pob dysgwr i wneud cysylltiadau rhwng y gwahanol feysydd dysgu a phrofiad a chymhwyso eu dysgu i sefyllfaoedd a chyd-destunau newydd. Rydym yn cefnogi dilyniant ar hyd y continwwm dysgu ac yn sicrhau eu bod yn datblygu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau.
  • Rydym yn archwilio beth mae’r pedwar diben yn ei olygu i bob dysgwr a chredwn yn gryf y dylid paratoi a dylunio cwricwlwm sy’n cyfrannu at ddatblygiad pob un o’n dysgwyr wrth iddynt gymhwyso’r pedwar diben ar draws y cwricwlwm.
  • Fel ysgol mae gennym ddealltwriaeth glir o pam mae pethau’n cael eu dysgu a’u gwneud. Mae dyluniad y cwricwlwm yn gofyn i ni resymu pam mae dysgu penodol yn bwysig a beth yw hanfod y dysgu hwnnw.
  • Mae cwricwlwm ein hysgol yn eang a chytbwys ac yn cynnwys cyfleoedd dysgu o fewn ac ar draws pob un o’r Maes Dysgu a Phrofiad. 
  • Mae’n cwmpasu’r cysyniadau yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ac yn darparu cynnydd priodol yn unol ag egwyddorion cynnydd.
  • Mae hefyd yn cyd-fynd â gofynion gorfodol o addysgu Cymraeg, Saesneg a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM). Yr elfennau gorfodol o Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh).
  • Mae sgiliau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol wedi’u hymwreiddio drwy’r cwricwlwm. 
  • Ein nod yw darparu cwricwlwm arloesol a heriol a fydd yn ysbrydoli ein disgyblion i ragori ar eu potensial. 

 

                                                              Cwricwlwm i Gymru

Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi’i ddatblygu i gyflawni pedwar diben allweddol.

Ei nod yw annog ein disgyblion i fod yn:

• Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog
• Unigolion iach, hyderus
• Gyfranwyr mentrus, creadigol
• Ddinasyddion moesol, gwybodus

Mae gan Gwricwlwm Cymru chwe maes dysgu.

1. Celfyddydau mynegiannol sy’n ymgorffori celf, dawns, drama a chyfryngau digidol, a cherddoriaeth. Bydd yn annog creadigrwydd a, meddwl beirniadol ac yn cynnwys perfformiad.

2. Dyniaethau sy’n ymgorffori daearyddiaeth, hanes, addysg grefyddol, astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Bydd yn seiliedig ar brofiadau dynol a bydd hefyd yn ymdrin â diwylliant Cymru.

3. Iechyd a lles: mae hyn yn ymdrin ag agweddau corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol bywyd, gan helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd a’u lles a dysgu sut i reoli dylanwadau cymdeithasol. 

4. Gwyddoniaeth a thechnoleg sy’n ymgorffori bioleg, cemeg, ffiseg, gwyddoniaeth gyfrifadurol, a dylunio a thechnoleg.

5. Mathemateg a rhifedd: yn y blynyddoedd cynnar, bydd hyn yn cynnwys dysgu trwy chwarae. Yn nes ymlaen, bydd yn cynnwys gweithio’n annibynnol ac ar y cyd ag eraill.

6. Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu:bydd hyn yn cynnwys Cymraeg a Saesneg, llenyddiaeth ac ieithoedd rhyngwladol. Bydd dysgu Cymraeg yn orfodol o hyd (fel iaith ychwanegol i blant nad ydyn nhw’n defnyddio’r Gymraeg fel eu hiaith gyntaf). 

 

                                               Asesu a Chynnydd

Mae dilyniant ac asesu effeithiol yn hanfodol i sicrhau ein bod yn cyflawni gweledigaeth ein hysgol.
Mae asesu a chynnydd yn rhan o bob profiad dysgu ac addysgu yn Ysgol Gwaelod y Garth ac yn cynnyws hunan asesu, asesu pâr, adborth athrawon ac asesiadau unigol y dysgwyr.
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau asesu yn seiliedig ar dystiolaeth i alluogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd ar gyflymder priodol. Mae hyn yn caniatau i ni lunio darlun holistaidd o gynnydd pob plentyn.
Mae'r disgyblion yn cydweithio gyda'u hathrawon i ddeall eu cynnydd ac i adnabod y cam nesaf yn eu taith ddysgu. 
Rydym yn herio'r disgyblion,yn eu cefnogi ac yn myfyrio ar gynnydd dros amser er mwyn mesur cynnydd grwpiau o ddysgwyr.   
 Mae ein cwricwlwm ysgol wedi’i ategu gan yr egwyddorion cynnydd sy’n disgrifio’r hyn y mae’n ei olygu i ddysgwyr wneud cynnydd o fewn y 6 maes dysgu a phrofiad ac rydym yn ystyried cynnydd yn y 6 maes dysgu yn erbyn datganiadau o'r hyn sy'n bwysig.
 Mae ein trefniadau asesu yn sicrhau ymgysylltiad gweithredol rhwng dysgwyr ac athrawon ac mae’n seiliedig ar fyfyrio parhaus, beth yw'r cam nesaf a beth sydd angen gwneud er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni ei botensial.

 

                                         Gwerthuso ein Cwricwlwm

Bydd ein cwricwlwm ysgol yn cael ei adolygu’n barhaus er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion ein dysgwyr ac yn gwireddu gweledigaeth ein hysgol. 
Drwy gydol y flwyddyn bydd amrywiaeth o weithgareddau hunanarfarnu yn cael eu trefnu er mwyn gwerthuso ein dealltwriaeth o effeithiolrwydd ein cwricwlwm a’r anghenion gofynnol.
 Byddwn yn gweithio o fewn ein hysgol, ar draws y clwstwr ac mewn partneriaeth â llywodraethwyr, y consortia rhanbarthol a'r awdurdod lleol, er mwyn sicrhau continwwm dysgu o ansawdd uchel.

 

 

 

 

                                           Gwaelod y Garth Curriculum Vision  

Our habitat here at Gwaelod y Garth school provides a range of opportunities for our pupils to be inquisitive learners. The rural area, forest and mountain provide beneficial outdoor experiences and encourage independence and curiosity. The community is an integral part of our habitat and we work with the WI and the chapel to build on the sense of belonging that is characteristic of us. This active relationship is central to the life of Gwaelod y Garth school as the potential of all pupils is nurtured in school and in the community beyond. As a result of our successes on the Eisteddfod stage creative extra-curricular experiences are key, and develop the confidence and entrepreneurship of our pupils. Bilingualism is celebrated in our school and the natural collaboration between the two streams enables us to nurture confident pupils who are proud of their language and culture. We encourage innovation and our STEM pod gives all our pupils the opportunity to push the boundaries and work together on live projects to succeed. All pupils will be challenged and high expectations are an integral part of our school where there is ‘no ceiling’. As a result of our pupil government, ‘Llais’, we encourage all pupils to contribute to our school life and to make strategic decisions. They are encouraged to make choices that will have a positive impact on their school, community, country and the wider world. As a result of our celebrating learning sessions, we appreciate the multi-cultural nature of our area and the city, encouraging respectful and caring pupils who celebrate their differences. At Ysgol Gwaelod y Garth we are proud of our identity and our curriculum will celebrate our languages, histories, culture and habitat. 

 

                                  Collaborating with all stakeholders

We have collaborated with all our stakeholders to ensure that the 4 purposes are an integral part of our vision and that the pupils, staff, parents and governors are a key part of the process of creating our new curriculum.
We started the process of planning our new curriculum by holding discussions with the pupils, staff, parents and governors on:
Why? Why are we focusing on these skills? Why are we introducing this concept? Why are we presenting these experiences? Why did we target these skills?
The learning journey. How will the pupils learn? How will the pupils travel along their learning continuum? How can we ensure purposeful learning experiences that target the individual pupil? What does the individual pupil need in order to progress?
The deep learning. How can we ensure that there is depth and understanding in the learning? How can we ensure that our pupils have in-depth knowledge and a strong understanding? How can we ensure that all children are challenged?
Progress. How can we ensure that all pupils make progress? How will we measure this progress from the perspective of our new curriculum?

                                             

 

                                           Our School Curriculum

  • At Ysgol Gwaelod y Garth we aim to develop confident, ambitious, informed and creative learners.
  • Our main priorities are enabling our learners to realise the four purposes and equip them for ongoing learning.
  • The Curriculum for Wales guidance is a clear statement of what is important in developing a broad and balanced education. The four purposes are the shared vision and aspiration for each child and young person.
  • We aim to build high expectations and enable all learners to achieve their full potential.
  • In Gwaelod y Garth we offer a broad and balanced education that enables all learners to make links between the different areas of learning and experience and apply their learning to new situations and contexts.
  • We explore what the four purposes mean for all learners and we strongly believe that curriculum preparation and design should contribute to learners’ development towards the four purposes, rather than trying to fit the headlines of the four purposes into all learning.
  • As a school we have a clear understanding of why things are learned and done, curriculum design requires us to reason why specific learning matters and what the essence of that learning is.
  • We aim to provide an innovative and challenging curriculum which will inspire our pupils to surpass their potential.
  • We support progression along the continuum of learning and ensure their development of knowledge, skills and experiences.
  • Our school curriculum is broad and balanced and includes learning opportunities within and across all of the Areas of learning and experience.
  • It encompasses the concepts in all of the statements of what matters and provides appropriate progression in accord with the principles of progression.
  • It also aligns to the mandatory requirements of teaching Welsh, English and Religion, Values and Ethics (RVE).
  • The mandatory elements of Relationship and Sexuality Education (RSE) and the cross curricular skills of literacy, numeracy and digital competence are embedded throughout the curriculum.

 

 

                                              Curriculum for Wales

The new Curriculum for Wales has been developed to fulfil four key purposes. It aims to produce children who are, or will become:

• Ambitious, capable learners
• Healthy, con dent individuals
• Enterprising, creative contributors

• Ethical, informed citizens

 

The Curriculum for Wales has six areas of learning.

1. Expressive arts incorporating art, dance, drama, and digital media, and music. It encourages creativity and critical thinking and include performance.

2. Humanities incorporating geography, history, RE, business studies and social studies. It is based on human experiences and also covers Welsh culture.

3. Health and wellbeing: this covers the physical, psychological, emotional and social aspects of life, helping students make informed decisions about their health and wellbeing and learn how to manage social situations. It also includes PE.

4. Science and technology incorporating biology, chemistry, physics, computer science, and design and technology.

5. Mathematics and numeracy: in the early years, this involves learning through play. In later stages, it includes working both independently and collaboratively with others.

6. Languages, literacy and communication: this includes Welsh and English, literature and international languages. Welsh language teaching is compulsory (as an additional language for children who don’t use Welsh as their first language.

 

                                                      Assessment and Progress
Effective follow-up and assessment is essential to ensure we achieve our school's vision.
Assessment and progress is part of every learning and teaching experience at Ysgol Gwaelod y Garth and includes self assessment, peer assessment, teacher feedback and learners' individual assessments.
We use a range of evidence-based assessment strategies to enable each individual learner to progress at an appropriate pace. This allows us to create a holistic picture of each child's progress.
The pupils collaborate with their teachers to understand their progress and to identify the next step in their learning journey.
We challenge the pupils, support them and reflect on progress over time in order to measure the progress of groups of learners.
 Our school curriculum is supported by the principles of progression which describe what it means for learners to make progress within the 6 areas of learning and experience and we consider progress in the 6 areas of learning against the what matter statements.
 Our assessment arrangements ensure active engagement between learners and teachers and is based on continuous reflection, what is the next step and what needs to be done to ensure that each child achieves their potential.

 

                                          Evaluating our Curriculum

Our school curriculum will be continuously reviewed to ensure that it meets the needs of our learners and realizes the vision of our school. Throughout the year a variety of self-evaluation activities will be organized in order to evaluate our understanding of the effectiveness of our curriculum and the required needs. We will work within our school, across the cluster and in partnership with governors, the regional consortia and the local authority, in order to ensure a high quality learning continuum.

 

 

 

Top